Yn y canol

Yng nghanol eich bod mae gennych chi
yr atebion i’r cwestiynau hanfodol hyn.
Rydych chi’n gwybod pwy ydych chi.
Rydych chi’n gwybod beth na allwch
chi fyw hebddo. Rydych chi’n gwybod
pryd mae’n rhaid i chi symud, a ble rhaid
i chi fynd. Rydych chi’n gwybod pam
mai’ch unig ddewis yw ffoi. Eich atebion
yw eich tynged – anorchfygol, anadferadwy.