Pan fydd carreg yn treiddio heb wahoddiad llonyddwch eich pwll,
llyncwch hi heb wrthwynebiad – yn hael, yn raslon – amgaewch hi,
gadewch iddi gyrraedd eich dyfnder yn ddi-rwystr, i ymuno â’r holl
gerrig eraill sydd wedi ceisio lloches yn eich cofleidiad.